DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

TEITL

Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio – Darpariaethau Prynu Gorfodol

DYDDIAD

28 Gorffennaf 2022

GAN

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

 

 

Gosodir y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysiad mewn perthynas â Biliau Senedd y DU. Mae'n ymwneud â'r darpariaethau penodol yn y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (“y Bil”) a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru ond nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol arnynt o dan Reol Sefydlog 29, oherwydd nad oes gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â'r darpariaethau hynny. Cyflwynwyd y Bil yn Senedd y DU, Tŷ'r Cyffredin ar 11 Mai 2022.

 

Mae darpariaethau eraill yn y Bil ynghylch cynllunio defnydd tir; adroddiadau canlyniadau amgylcheddol ar gyfer cydsyniadau penodol; gwybodaeth a chofnodion sy'n ymwneud â thir, yr amgylchedd neu dreftadaeth; llywodraethu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig; a chrwydraeth a chardota, angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Heddiw, rwyf wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (https://senedd.cymru/media/aekd01xo/lcm-ld15356-w.pdf) a byddaf yn ystyried cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol maes o law.

 

Nid yw prynu gorfodol yn fater a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, mae gan y Senedd gymhwysedd cyfyngedig mewn perthynas â phrynu gorfodol mewn meysydd datganoledig, gan gynnwys tai a chynllunio defnydd tir. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw addasiadau arfaethedig i gyfraith prynu gorfodol, drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, fod yn glir yng nghyd-destun newidiadau penodedig i gyfraith cynllunio defnydd tir neu fater arall nad yw wedi'i gadw'n ôl. Felly, ni all y Senedd addasu cyfraith prynu gorfodol yn gyffredinol, nac er ei fwyn ei hun nac i gyflawni dibenion a gedwir yn ôl. Mae hyn yn atal y Senedd rhag addasu'r rheolau cyffredinol ar brynu gorfodol mewn deddfwriaeth fel Deddf Caffael Tir 1981 mewn perthynas â phob caffaeliad gorfodol yng Nghymru, fel y cynigir gan y Bil. 

Mae iawndal tir yn fater a gedwir yn ôl.

 

Fodd bynnag, bydd y cynigion yn y Bil sy'n ymwneud â phrynu gorfodol yn effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru yn rhinwedd eu rôl fel awdurdod cadarnhau ac fel awdurdod caffael.

 


 

Amcanion Polisi

 

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan mai ei hamcan o ran polisi yw gwrthdroi gwahaniaethau daearyddol rhwng rhannau gwahanol o'r DU drwy rannu cyfleoedd yn fwy cyfartal. Mae pedwar amcan cyffredinol i’r Bil:

 i.        Gosod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i bennu, ac adrodd yn flynyddol ar gynnydd tuag at sicrhau ffyniant bro drwy leihau gwahaniaethau daearyddol ar draws y Deyrnas Unedig;

ii.        Creu fframwaith modern i gefnogi'r broses fwyaf radical a welwyd yn yr oes sydd ohoni i ddatganoli pwerau drwy greu model newydd o awdurdodau sirol cyfun i gefnogi'r gwaith o wireddu cenhadaeth ffyniant bro Llywodraeth y DU sef, ‘erbyn 2030, y bydd gan bob rhan o Loegr sydd am gael cytundeb o’r fath, gytundeb datganoli fydd â phwerau ar y lefel uchaf o ddatganoli, neu'n agos at y lefel honno, a setliad ariannu syml a hirdymor’;

iii.        Darparu cyfres newydd o bwerau i’r awdurdodau lleol er mwyn iddynt fedru adfywio’u trefi drwy arwerthiannau rhentu ar y stryd fawr, ynghyd â diwygiadau i’r broses prynu gorfodol er mwyn helpu gyda’r gwaith o wireddu cenhadaeth ffyniant bro Llywodraeth y DU sef, ‘erbyn 2030, y bydd yr ymdeimlad o falchder mewn lle, megis boddhad pobl â chanol eu trefi a’u hymdeimlad o ymgysylltiad â’r diwylliant a’r gymuned leol, yn uwch ym mhob rhan o'r DU, ac y bydd y bwlch rhwng yr ardaloedd sy’n perfformio orau ac ardaloedd eraill yn cau’;

iv.        Creu system gynllunio a fydd yn darparu cartrefi mwy prydferth a gwyrddach, ynghyd â'r seilwaith cysylltiedig a'r gefnogaeth ddemocrataidd y mae cymdogaethau’n dymuno’u cael ac yn eu haeddu.

 

Darpariaethau perthnasol yn y Bil

 

Cymal 140 (Caffael gan awdurdodau lleol at ddibenion adfywio)

 

Mae cymal 140 o'r Bil yn diwygio adran 226 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 drwy gyflwyno'r geiriad adfywio (“regeneration”) i egluro y gall awdurdodau lleol ddefnyddio eu pŵer o dan adran 226 i gaffael tir yn orfodol at ddibenion adfywio. Fodd bynnag, mae'r cymal hwn at ddibenion Lloegr yn unig ac ni fydd yn gymwys i Gymru.

 

Mae'r Bil yn gwneud y darpariaethau canlynol sy'n addasu swyddogaethau presennol Gweinidogion Cymru:

 

Cymal 141 (Cyhoeddusrwydd ar-lein)

 

Mae cymal 141 yn diwygio adrannau 7, 11, 12, 15 a 22 a pharagraff 9 o Atodlen 3 i Ddeddf Caffael Tir 1981 (“Deddf 1981”) sy'n nodi'r gofynion cyhoeddusrwydd ar gyfer dogfennau a hysbysiadau penodol a gyhoeddir fel rhan o'r broses gorchymyn prynu gorfodol (CPO). Mae hefyd yn mewnosod adran newydd 12A yn Neddf 1981.

Bydd y cymal yn ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau a hysbysiadau penodol fod ar gael ar-lein, gan sicrhau bod y rhai heb fynediad i'r rhyngrwyd yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt mewn papurau newydd lleol neu mewn lleoliadau ffisegol. Mae cymal 144 (Darpariaethau cyfatebol ar gyfer pryniannau gan Weinidogion) a pharagraff 1 o Atodlen 14 yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf 1981 a'i effaith yw gwneud yr un ddarpariaeth â Chymal 141 ar gyfer Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu yn rhinwedd eu rôl fel awdurdod caffael.

 

Mae cymal 141 yn ychwanegu gofyniad ychwanegol i swyddogaethau presennol awdurdodau caffael sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi hysbysiad ar wefan y gallai'r cyhoedd yn rhesymol ddisgwyl dod o hyd iddi wrth chwilio am wybodaeth am gynllun. Mae gofyniad newydd hefyd yn cael ei gyflwyno gan y Bil i awdurdodau caffael gyhoeddi hysbysiad ar wefan briodol ar ôl gwneud gorchymyn.

 

Mae cymal 141 hefyd yn ychwanegu gofyniad ychwanegol at swyddogaethau presennol Gweinidogion Cymru fel awdurdod cadarnhau (neu awdurdod priodol pan fo'r awdurdod caffael yn un o Weinidogion Cymru) drwy bŵer disgresiynol newydd sy'n caniatáu iddynt gyfarwyddo y gellir datgymhwyso'r gofyniad presennol i hysbysiad enwi man lle y gellir gweld CPO a map.

 

Cymal 142 (Trafodion cadarnhau)

 

Mae cymal 142 yn diwygio adrannau 13A a 13B o Ddeddf 1981 sy'n nodi'r weithdrefn y dylai Gweinidogion Cymru (yn eu rôl fel awdurdod cadarnhau) ei dilyn wrth ystyried gwrthwynebiadau i CPO. Mae'r diwygiadau’n golygu y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried CPO bellach naill ai drwy ymchwiliad cyhoeddus neu drwy'r weithdrefn sylwadau. Mae'r derminoleg ar gyfer yr olaf wedi newid o “sylwadau ysgrifenedig” i “sylwadau” gan y bydd y weithdrefn yn caniatáu gwrandawiad llafar anffurfiol lle mae gwrthwynebydd yn gofyn am hynny. Y weithdrefn bresennol yw “sylwadau ysgrifenedig”, ac ar hyn o bryd mae gan Gymru ei Rheoliadau Sylwadau Ysgrifenedig ei hun.

 

Mae cymal 144 a pharagraff 2 o Atodlen 14 yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf 1981 a'i effaith yw gwneud yr un ddarpariaeth â Chymal 142 ar gyfer Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu yn rhinwedd eu rôl fel awdurdod priodol.

 

Cymal 143 (Cadarnhad amodol)

 

Mae cymal 143 yn mewnosod darpariaeth newydd (adran 13BA) yn Neddf 1981 ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 15 o'r Ddeddf honno. Mae hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i baragraff 3 o Atodlen 5A i Ddeddf Tai 1985. Bydd y cymal

yn rhoi opsiwn ychwanegol i Weinidogion Cymru (gan weithredu yn eu rôl fel awdurdod cadarnhau) o gadarnhau CPO yn ddarostyngedig i amodau cyn y gall yr awdurdod caffael perthnasol arfer y pwerau prynu gorfodol oddi tano.

 

Mae cymal 144 a pharagraff 3 o Atodlen 14 yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf 1981 a'i effaith yw gwneud yr un ddarpariaeth â Chymal 143 i Weinidogion Cymru (gan weithredu yn rhinwedd eu rôl fel awdurdod caffael) wneud CPO yn amodol. Effaith gwneud CPO yn amodol yw bod y gorchymyn:

a)        ddim yn weithredol hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, ar ôl i'r awdurdod priodol ystyried, bod amodau penodol wedi'u bodloni, a

b)        yn dod i ben os nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod amodau penodol wedi'u bodloni erbyn amser penodol.

 


 

Cymal 145 (Diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â'r dyddiad gweithredu)

 

Mae cymal 145 yn diwygio adran 26 o Ddeddf 1981 sy'n pennu mai'r dyddiad y daw CPO yn weithredol yw'r dyddiad y caiff hysbysiad sy’n cadarnhau CPO neu wneud y CPO ei gyhoeddi gyntaf. Mae'r cymal hwn yn diwygio adran 26 i wneud darpariaeth ar gyfer CPOs a gaiff eu cadarnhau'n amodol o dan gymal 143 neu baragraff 3 o Atodlen 14.

 

Cymal 146 (Terfynau amser ar gyfer gweithredu)

 

Mae cymal 146 yn diwygio adran 4 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 ac adran 5A o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 sy’n nodi’r amserlen ar gyfer gweithredu pwerau prynu gorfodol o dan CPO ar ôl iddo gael ei gadarnhau. Yn y ddau achos, y cyfnod amser presennol yw 3 blynedd.

 

Mae’r cymal hwn yn diwygio’r adrannau hyn ac yn mewnosod adran newydd 13D yn Neddf 1981 i roi hyblygrwydd i Weinidogion Cymru (gan weithredu yn rhinwedd eu rôl fel awdurdod cadarnhau) ganiatáu cyfnod gweithredu hwy ar gyfer CPO lle y bo’n briodol. Mae’r cymal hefyd yn mewnosod paragraff newydd 3A yn Atodlen 1 i Ddeddf 1981 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru (gan weithredu yn eu rôl fel awdurdod caffael) gynnwys darpariaeth mewn CPO sy’n pennu cyfnod o fwy na 3 blynedd ar gyfer ei weithredu.

 

Cymal 147 (Cytundeb i amrywio dyddiad breinio)

 

Mae cymal 147 yn diwygio Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 drwy gyflwyno adran newydd 8A i'r Ddeddf honno er mwyn caniatáu gohirio'r dyddiad y bydd awdurdod caffael yn cymryd perchnogaeth o fuddiant yn y tir, yn amodol ar gytundeb y perchennog. Bydd hyn yn addasu swyddogaeth Gweinidogion Cymru fel awdurdod caffael. Mae'r cymal hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adlewyrchu adran newydd 8A.

 

Ar hyn o bryd, rhaid i Weinidogion Cymru (gan weithredu yn rhinwedd eu rôl fel awdurdod caffael) roi o leiaf dri mis o rybudd ymlaen llaw o'r dyddiad y maent yn bwriadu cymryd perchnogaeth o dir sydd wedi'i gynnwys mewn CPO ac unwaith y caiff y dyddiad hwnnw ei bennu ni ellir ei amrywio. Diben y cymal hwn yw rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau caffael a pherchennog buddiant mewn tir pe bai amgylchiadau'n newid ar ôl rhoi rhybudd.

 

Cymal 148 (Safonau cyffredin ar gyfer prynu gorfodol)

 

Mae cymal 148 yn cyflwyno darpariaeth newydd sy’n rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol bennu, drwy reoliadau, safonau data mewn perthynas â gwybodaeth CPO y bydd yn rhaid i bob awdurdod caffael gydymffurfio â hwy. Bydd hyn yn addasu swyddogaeth Gweinidogion Cymru fel awdurdod caffael. Ni roddir unrhyw bŵer cyfatebol i Weinidogion Cymru bennu eu safonau data eu hunain ar gyfer data CPO drwy reoliadau.

 

Nod y mesur yw hwyluso’r gwaith o ddatblygu system brynu orfodol sy’n gwneud defnydd gwell o dechnoleg ddigidol i wella mynediad at wybodaeth bwysig am brynu gorfodol, ysgogi effeithlonrwydd mewn ceisiadau am gadarnhad a gwneud penderfyniadau, a hwyluso gwell ymgysylltu â’r cyhoedd.

 

Cymal 149 (Egwyddor ‘Dim cynllun’: mân ddiwygiadau)

 

Mae cymal 149 yn diwygio adrannau 6D a 6E o Ddeddf Digollediad Tir 1961 i sicrhau, at ddibenion asesu'r iawndal am fuddiant mewn tir a gaffaelwyd drwy orfodaeth, fod y diffiniad o ‘y cynllun’ sy'n destun y CPO hefyd yn cynnwys gwella tir yn ogystal ag ail-ddatblygu ac adfywio.

 

Nid oes gan Weinidogion Cymru gymhwysedd mewn perthynas ag iawndal tir yn rhinwedd paragraff 185 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac, o'r herwydd, nid yw'r ddarpariaeth hon yn effeithio ar unrhyw swyddogaethau presennol gan Weinidogion Cymru. 

 

Y rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o bwerau prynu gorfodol gan awdurdodau lleol i hwyluso'r adferiad economaidd wedi pandemig Covid-19 a hybu egwyddorion creu lleoedd i sicrhau newid amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd buddiol yn ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai awdurdodau lleol ystyried defnyddio pwerau prynu gorfodol i gynyddu'r cyflenwad o dai yn ogystal â sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.

 

O'u defnyddio'n briodol, gall pwerau prynu gorfodol gyfrannu at adfywio effeithiol ac effeithlon, adfywio cymunedau, creu lleoedd, a hybu busnes, gan arwain at welliannau mewn ansawdd bywyd.

 

Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wella'r broses brynu gorfodol i'w gwneud yn decach, ac yn fwy effeithlon ac eglur. Ein blaenoriaeth yw cael gwared ar rwystrau i bwerau prynu gorfodol gan awdurdodau lleol, ac annog mwy o ddefnydd ohonynt, drwy symleiddio a moderneiddio'r broses brynu gorfodol.

 

Mae'n werth nodi bod y Bil yn ceisio cyflwyno gofynion cyhoeddusrwydd ar-lein ar gyfer dogfennau a hysbysiadau penodol sy'n ymwneud â gwneud a chadarnhau CPOs. Nod y Bil hefyd yw gwneud y broses gadarnhau yn fwy effeithlon drwy sicrhau bod y weithdrefn fwyaf priodol a chymesur ar gyfer ystyried gwrthwynebiadau i CPO yn cael ei defnyddio. Bydd y darpariaethau hyn yn cynyddu ymgysylltiad ac yn codi ymwybyddiaeth o'r broses CPO ynghyd â gwneud y broses yn symlach.

 

Rwyf o'r farn ei bod yn briodol i'r darpariaethau hyn fod yn gymwys o ran Cymru ac iddynt gael eu cynnwys yn y Bil hwn.